R - Yn
dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif
gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro dros y 12 mis nesaf? OAQ(5)0610(FM)
2. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i economi Gogledd Cymru? OAQ(5)0611(FM)
3. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): Faint o arian cyhoeddus a gafodd ei fuddsoddi yn rhwydwaith rheilffordd Cymru a'r Gororau yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf? OAQ(5)0613(FM)R
4. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran trafnidiaeth integredig yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0614(FM)
5. Michelle Brown (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd canlyniad etholiad cyffredinol y DU yn ei chael ar bolisïau Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0622(FM)
6. Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y bydd Blwyddyn Chwedlau o fudd i ogledd-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0617(FM)
7. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau meddygol meddygon teulu yn Sir Drefaldwyn? OAQ(5)0621(FM)
8. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo llesiant staff yn sector cyhoeddus Cymru? OAQ(5)0615(FM)
9. Nathan Gill (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fargen dwf Gogledd Cymru? OAQ(5)0612(FM)
10. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau economaidd ar gyfer de-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0616(FM)
11. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gyfradd treth incwm y mae’r Prif Weinidog yn disgwyl i bobl yng Nghymru sy’n ennill dros £80,000 y flwyddyn ei thalu o fis Ebrill 2019 ymlaen? OAQ(5)0619(FM)W
12. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y broses o asesu cynigion ar gyfer gorsafoedd trenau newydd yng Nghymru? OAQ(5)0620(FM)
13. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa ddatblygiadau a fu i wireddu bwriad y Prif Weinidog i sefydlu confensiwn cyfansoddiadol ar ddyfodol y DU wrth iddi ymadael â'r UE? OAQ(5)0168(FM)W